Thesis icon

Thesis

Ailddarlleniadau o waith Dafydd ap Gwilym

Alternative title:
Rereadings of the poetry of Dafydd ap Gwilym
Abstract:
Cynnwys y traethawd ymchwil hwn bedair astudiaeth ar waith Dafydd ap Gwilym. O ran methodoleg, defnyddir nifer o ddulliau, gan gynnwys beirniadaeth destunol a beirniadaeth lenyddol. Y mae penodau 1 a 3 yn destunol eu pwyslais, gan fynd i’r afael â llawysgrifau cymharol gynnar lle y ceir enghreifftiau o waith Dafydd ap Gwilym. Rhydd yr ail bennod sylw i lythrennedd yn yr Oesoedd Canol ac yn y bennod olaf eir i’r afael â barddoniaeth Dafydd ap Gwilym drwy roi sylw manwl i amwysedd ei farddoniaeth. Yn y bennod gyntaf cymhwysir beirniadaeth destunol at Beniarth 48, un o’r llawysgrifau cynharaf lle y ceir casgliad o gerddi gan Ddafydd ap Gwilym, gan roi sylw manwl i’r cywydd anorffenedig amheus ei awduraeth ‘Credaf i Naf y nefoedd’, gan gynnig y dylid ystyried ei fod o bosibl yn gerdd ddilys gan Ddafydd ap Gwilym. Trafodir dylanwad llythrenendd y bedwaredd ganrif ar ddeg ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn yr ail bennod, a chesglir bod Dafydd ap Gwilym yn gyfarwydd â’r ffenomen hon mewn cyd-destun seciwlar yn ogystal â chyd-destun eglwysig. Canolbwyntia’r drydedd bennod ar Beniarth 52, lle y ceir dau gywydd gan Ddafydd ap Gwilym yn ogystal â cherddi gan Ddafydd Nanmor. Cedwir mewn cof mai endid ansefydlog yw canon llenyddol a chodir cwr y llen ar ddylanwad Dafydd ap Gwilym ar Ddafydd Nanmor. Yn y bennod olaf, trafodir amwysedd ym marddoniaeth Dafydd ap Gwilym a dadleuir bod ei farddoniaeth yn fwy na chanu confensiynol neu loddest eiriol o ystrydebau serch oherwydd bod ei hamwysedd, o bob math—boed yn eiriau unigol, yn ddelwedd estynedig, yn strwythur tanorweddol neu’n gymhleth o emosiynau’r bardd—yn byrlymu i’r wyneb ac yn cynysgaeddu’i gerddi â phrofiad llenyddol ehangach.

Actions

Access Document

Authors

More by this author
Institution:
University of Oxford
Division:
HUMS
Department:
Medieval & Modern Languages Faculty
Sub department:
Celtic
Oxford college:
Jesus College
Role:
Author
More by this author
Division:
HUMS
Department:
Medieval & Modern Languages Faculty
Sub department:
Celtic
Role:
Author

Contributors

Division:
HUMS
Department:
Medieval & Modern Languages Faculty
Sub department:
Celtic
Role:
Supervisor
Division:
HUMS
Department:
Medieval & Modern Languages Faculty
Sub department:
Celtic
Role:
Supervisor


More from this funder
Funding agency for:
Thomas, S


Publication date:
2008
DOI:
Type of award:
DPhil
Level of award:
Doctoral
Awarding institution:
University of Oxford


Language:
Welsh
Keywords:
Subjects:
UUID:
uuid:01243099-54e4-4298-b804-ddb28d83aed2
Local pid:
ora:2378
Deposit date:
2008-10-10
ARK identifier:

Terms of use


Views and Downloads






If you are the owner of this record, you can report an update to it here: Report update to this record

TO TOP